Llythyrau yn y Llwch
Yn 1942 taflai'r Ail Ryfel byd ei gysgod hir thywyll dros Brydain - ond gyda'r Americanwyr yn ymuno รข'r rhyfel, roedd y rhod ar fin troi.
Dros nos daeth y milwyr, fel angylion achubiaeth, ac erbyn iddi wawrio roedd pentref cysglyd Llanyborth yn deffro i olygfa ryfeddol.
Gyda gwersyll y milwyr gwyn i'r dwyrain a gwersyll y milwyr du i'r gorllewin, roedd trigolion y pentref wedi eu gwasgu mewn dwrn o hiliaeth.
Wedi i Sali Lloyd, merch leol, ddechrau perthynas gydag un o'r milwyr du, cafodd y gymuned ei hollti.
Yn 1985, mae Tomos, mab Sali, yn dychwelyd i'r pentref i chwilio am atebion, ond yn hytrach na dod o hyd i'r gwir mae'n agor hen friwiau ac yn darganfod dirgelwch tywyll a wal o ddistawrwydd.
Dyma frwydr un dyn am wirionedd a chyfiawnder.
GTIN 9781784610852
MPN
8.03